Uned Gymraeg

Swyddfa Abertawe

English | Cymraeg

Sefydlwyd Swyddfa Abertawe y SCYA yn 1976.  Bu’n cyflawni ymchwil dros amrywiaeth o gleientiaid diweddar sy’n cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cronfa’r Loteri Fawr, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, ac awdurdodau addysg unigol.

Â’i swyddfa ar gampws Townhill Prifysgol Fetropolitan Abertawe, mae gan yr swyddfa gryfderau penodol yn y canlynol:

  • Gwybodaeth o’r agenda ar gyfer ysgolion, colegau ac addysg gydol oes yng Nghymru
  • Profiad ymchwil sylweddol o agenda Gwasanaethau Plant yng Nghymru
  • Arbenigedd datblygu profion, asesiadau a deunydd dosbarth
  • Arbenigedd mewn ymchwil ansoddol ac adolygiadau llenyddiaeth
  • Arbenigedd ym materion y Gymraeg, a phrofiad o wneud ymchwil werthusol trwy’r Gymraeg a’r Saesneg.

Dyma rai o’r ystod o brosiectau a wnaed gan y Swyddfa yn ddiweddar:

  • Datblygu Deunydd ac Asesiadau Sgiliau Cyfathrebu Blwyddyn 5, LlCC
  • Datblygu Deunydd Dosbarth i Hyrwyddo’r Côd Cefn Gwlad, Cyngor Cefn Gwlad Cymru
  • Adolygu Addysg 14-19 yn Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro
  • Adolygu Addysg 14-19 yng Ngheredigion, Cyngor Sir Ceredigion
  • Gwerthuso’r Gwasanaeth Lles Addysg yng Nghymru, LlCC
  • Gwerthuso’r Grant SELAN (Offer Addysg Arbennig), LlCC
  • Arolwg o’r Cytundeb Gwaith Cenedlaethol, APADGOS
  • Arolwg o Fforymau Ysgol yng Nghymru, APADGOS
  • Gwerthusiad o Ganolfannau Plant Integredig, BIG
  • Cyfraniad Llyfrgelloedd Teganau i’r Agenda Chwarae yng Nghymru, SCYA
  • Strwythur ac Effaith Gwasanaethau Plant yng Nghymru, CymLlLC
  • Gwerthuso Rhai Agweddau ar Waith Mudiad Ysgolion Meithrin, Bwrdd yr Iaith Gymraeg
  • Adolygu Clybiau Brecwast, CymLlLC
  • Cyfraniad y Sector Gwirfoddol at Ddysgu, NC-ELWA.


Swyddfa Abertawe y SCYA/NFER, Ystafell TK128
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Ffordd Townhill
Abertawe SA2 0UT
Ffôn: 0300 1231363




« Powered by Straker ShadoCMS »